Mae cwmni Purah Beeswax Candles yn Llannon, Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn defnyddio Helo Blod, gwasanaeth cyfieithu a chynghori cyflym a chyfeillgar sydd ar gael am ddim i helpu busnesau i ddefnyddio mwy o Gymraeg.
Mae'r cwmni canhwyllau cynaliadwy wedi bod yn defnyddio'r gwasanaeth am ddim i wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn y busnes. Maent wedi gweld manteision o ddefnyddio'r Gymraeg yn barod.
Ar hyn o bryd mae Helen Louise Williams, perchennog Purah Beeswax Candles, yn gwerthu ei chanhwyllau ar-lein ac mae dros 20 o siopau yn eu gwerthu ledled Cymru. Roedd Helen eisiau ychwanegu mwy o Gymraeg i'w busnes er mwyn magu cysylltiad gyda’i chwsmeriaid a helpu ei busnes i dyfu. Sefydlwyd Purah Candles dros ddwy flynedd yn ôl, ac maen nhw’n defnyddio deunyddiau lleol, naturiol, cynaliadwy lle bo hynny'n bosib. Mae'r cwyr gwenyn sy’n cael ei ddefnyddio yn eu canhwyllau yn dod o gyfuniad o gwyr gwenyn o wledydd Prydain a'r cwyr gan eu gwenyn nhw eu hunain.
Meddai Helen: “Nes i benderfynu defnyddio’r Gymraeg yn y busnes am ddau reswm a dweud y gwir. Yn gyntaf, mae'n adlewyrchu pwy ydw i. Ges i fy ngeni a fy magu yng Nghymru, a dw i wedi sefydlu busnes yng Nghymru. Yn ail, mae 70% o fy nghwsmeriaid i’n byw yng Nghymru, a dw i’n credu y dylwn i ddefnyddio iaith y wlad rydw i'n gwerthu iddi.
“Hyd yn hyn, dw i wedi defnyddio Helo Blod i gyfieithu fy mhroffil ar y cyfryngau cymdeithasol, ac ar gyfer y disgrifiadau o fy nghynnyrch ar-lein. Yn y dyfodol, dw i'n gobeithio defnyddio'r gwasanaeth i wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy ar draws yr holl fusnes, yn enwedig ar y deunydd pacio.”
Mae busnesau bach a chanolig yn gallu defnyddio'r gwasanaeth i gael cyfieithiadau o hyd at 500 gair y mis, yn rhad ac am ddim. Mae Helo Blod yn gallu cyfieithu amryw o bethau all fod o help i’r busnes fel bwydlenni, cardiau busnes ac arwyddion. Os yw busnesau yn defnyddio'r Gymraeg yn barod, mae Helo Blod yn gallu helpu i wirio testun hyd at 1,000 o eiriau bob blwyddyn am ddim.
Meddai Helen Louise Williams wedyn: “Dw i'n credu bod defnyddio'r Gymraeg yn help mawr i ddod â chymunedau at ei gilydd. Dw i'n siarad Cymraeg ond ar lefel sylfaenol iawn, a dw i ddim yn credu ei fod yn ddigon da i'w ddefnyddio yn y busnes. Mae Helo Blod yn llenwi'r bwlch yna i fi, ac yn gwneud y cyfieithu i gyd drosta i.”
Mae Helo Blod hefyd yn gallu anfon adnoddau defnyddiol fel laniardau a bathodynnau sy'n dangos i gwsmeriaid pwy sy'n siarad neu'n dysgu Cymraeg.
Mae gwasanaeth Helo Blod yn rhan o nod ehangach Llywodraeth Cymru o ddyblu defnydd bob dydd o'r Gymraeg erbyn 2050. Mae Helo Blod yn annog pob perchennog busnes i ychwanegu ychydig o Gymraeg i’w busnes.
Meddai Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, “Mae defnyddio ychydig bach mwy o Gymraeg yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i'ch busnes. Ein nod yw gweld mwy o Gymraeg yn y llefydd rydyn ni'n mynd iddyn nhw bob dydd, o'ch siop leol, i'r becws neu'r lle trin gwallt.
“Mae Helo Blod yma i dy helpu di i ddod o hyd i dy lais a gwneud yr iaith yn fwy amlwg yn dy fusnes. Cysyllta gyda Helo Blod ac ymuna â'r cannoedd o bobl sydd wedi elwa yn barod o'r gwasanaeth yma sydd ar gael am ddim.”
Gall busnesau ddweud ‘Helo’ wrth Helo Blod heddiw drwy ffonio 03000 25 88 88 neu drwy ymweld â’r wefan llyw.cymru/heloblod er mwyn cael cefnogaeth i ddefnyddio mwy o Gymraeg.