Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi egwyddorion ac arweiniad newydd i gefnogi busnesau i greu agwedd gynhwysol tuag at iechyd yn y gweithle.
Gall cyflogwyr ddefnyddio'r egwyddorion syml i greu diwylliant galluogol yn y gweithle, lle mae gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ffynnu.
Gall eu Talking Toolkit helpu strwythuro sgyrsiau gyda gweithwyr a recriwtiaid posibl.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi datblygu'r canllawiau i helpu i gefnogi Health is Everybody’s Business.
Gan weithio'n agos gydag elusennau anabledd, cynrychiolwyr undebau a busnesau, nod yr egwyddorion a'r canllawiau yw eich helpu chi a'ch busnes i gefnogi, cadw a datblygu talent.
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cydnabod y bydd gweithwyr yn elwa ar fynediad at gyngor o ansawdd da i'w helpu i weithio ar eu gorau. Mae WorkRight for everyone yn atgoffa gweithwyr o'u hawliau yn y gweithle yn ogystal â sut i gynnal sgyrsiau i helpu'r gweithle i fod yn fwy agored ac ymddiriedus.
Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu gwasanaeth cyngor ar-lein ynglŷn â rhoi cymorth gydag iechyd ac anabledd gweithwyr i gyflogwyr a rheolwyr ar GOV.UK.