Bydd Chwarae Teg yn gweithio gyda chyflogwyr i greu polisïau gweithle, mecanweithiau adrodd a phrosesau cymorth y gellir eu cyflwyno ar draws sefydliadau i wneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb ac maen nhw’n recriwtio 20 o gyflogwyr o bob cwr o Gymru i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn.
Maen nhw’n chwilio am un unigolyn o bob sefydliad i ymrwymo i dair sesiwn ½ diwrnod yn ystod misoedd Medi a Hydref eleni.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y grŵp arloesol hwn, cysylltwch ag Emma Tamplin, Rheolwr Cydweithio drwy e-bostio Emma.Tamplin@chwaraeteg.com
Am ragor o wybodaeth ewch i Chwarae Teg.