BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpwch i ddylanwadu ar y cymorth a roddir i allforwyr yn y dyfodol

Shipping containers at a port

Ydych chi’n fusnes yng Nghymru sy’n allforio? Os ydych, rydyn ni am glywed oddi wrthych. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Miller Research i asesu ei rhaglenni cymorth i allforwyr.

Mae clywed llais busnesau’n hollbwysig – p’un a ydych wedi elwa ar y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i allforwyr neu’ch bod wedi ffeindio’ch ffordd eich hunan o gwmpas marchnadoedd y byd, rydyn ni am glywed eich stori. Atebwch ein harolwg a helpwch ni i helpu allforwyr y dyfodol. 

Bydd yr arolwg hwn yn cymryd tua 15-20 munud i'w gwblhau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg neu ymholiadau ynghylch sut y byddwn yn defnyddio'r data, cysylltwch â Yasmin Pemberton ar yasmin@miller-research.co.uk.

Os derbyniodd eich busnes gymorth allforio gan Lywodraeth Cymru rhwng 2017-2024, cwblhewch yr arolwg canlynol: https://www.smartsurvey.co.uk/s/Exports/

Os nad yw eich busnes wedi derbyn cymorth allforio gan Lywodraeth Cymru rhwng 2017-2024, cwblhewch yr arolwg canlynol:  https://www.smartsurvey.co.uk/s/EXPORT2/  

Cwblhewch yr arolwg cyn dydd Iau 31 Hydref.

Os ydych chi'n newydd i allforio neu’n edrych ar farchnadoedd newydd, mae rhai pethau allweddol y bydd angen i chi eu gwybod.  Dewch o hyd i sawl offeryn i'ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth / sgiliau allforio drwy glicio ar y ddolen ganlynol: HomepageHafan | Drupal (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.