BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpwch i wella’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer rolau’r diwydiant sgrin

Young sound engineer working on video footage during post production.

Mae ScreenSkills yn ceisio adborth gan y diwydiant o ganlyniad i ddiweddaru’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy’n llywio datblygiad cymwysterau a phrentisiaethau yn y diwydiannau sgrin.

Maent yn bwriadu ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol ledled y DU ynghylch y cymwyseddau, y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio mewn rolau sy’n ymwneud â chrefftau a chynyrchiadau yn y diwydiannau sgrin. Byddwn yn cyflawni hyn er mwyn diweddaru’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol presennol i adlewyrchu disgwyliadau gweithwyr y diwydiant ar hyn o bryd.

Byddwn yn adolygu ac yn diweddaru’r safonau canlynol:

  • Safonau Effeithiau Gweledol – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth i greu, addasu, neu wella delweddau ar gyfer cyfryngau symudol. Mae hyn yn ymwneud â chyfuno ffilm gweithredu byw a chynnwys a gynhyrchir gan gyfrifiadur (CG) i greu delweddau, sy’n edrych yn realistig ond a fyddai’n beryglus, yn ddrud neu’n amhosibl i’w ffilmio yn ystod ffilmio gweithredu byw, megis ffrwydriadau, damweiniau car neu lifogydd mewn dinasoedd.
  • Safonau Effeithiau Arbennig Corfforol (PSFX) – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n ddiogel ac yn effeithiol wrth greu effeithiau corfforol megis amodau tywydd, tanau a ffrwydriadau, yn unol â’r gofynion rheoleiddiol a deddfwriaethol.
  • Sgiliau Cyffredinol Cyfryngau Creadigol – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y diwydiannau creadigol a hynny mewn meysydd allweddol megis gweithio fel tîm, rheoli prosiectau, rheoli a marchnata eich hun – caiff y gwaith ar y safonau hyn ei gyflawni drwy’r adolygiadau safonol eraill.
  • Creu Cynnwys Radio a Sain – sy’n rhestru’r sgiliau ymarferol a’r wybodaeth sydd eu hangen i greu, defnyddio a chyflawni cynnwys mewn sefydliadau radio a sain megis podlediadau, rhaglenni, newyddion byw a darllediadau chwaraeon, cyngherddau a chynyrchiadau drama.

Er mwyn sicrhau bod y gyfres ddiweddaraf o safonau’n ymdrin â’r hynny a ystyrir yn arfer gorau yn y diwydiant yn bresennol, rydym yn annog gweithwyr proffesiynol y diwydiant i rannu eu barn ynghylch y safonau drafft hyn drwy gyflwyno adborth am yr adrannau sy’n berthnasol iddyn nhw erbyn hanner dydd ar 1 Chwefror 2024.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y safonnau, dewisiwch y ddolen ganlynol: news-item-nos-online-consultation-invite-welsh-language-version-080124.pdf (screenskills.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.