BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Helpwch y DU i fod yn barod am argyfwng – adolygiad cenedlaethol o gymwyseddau gwydnwch

Fire service - vehicle and employee

Comisiynwyd Ymddiriedolaeth Datblygu'r Gweithlu (sy'n ymgorffori Sgiliau er Cyfiawnder, Sgiliau Iechyd, People 1st International) gan Swyddfa'r Cabinet i gynnal adolygiad o’r gyfres Argyfyngau Sifil Posibl o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS). Bydd hyn yn sail i waith pellach sy'n cael ei wneud ar gyfer Gwydnwch ar draws sawl sector yn y DU.

Gwydnwch yw'r gallu i gynllunio, paratoi ac ymateb i ddigwyddiadau niweidiol (hynny yw unrhyw beth anarferol). Gallai'r rhain fod yn bethau fel tywydd eithafol, tân neu argyfyngau eraill, pandemigau, neu rywbeth llai fel toriadau pŵer neu dueddiadau tymhorol. 

Mae'r gyfres bresennol o Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer argyfyngau sifil posibl yn berthnasol i'r sector cyhoeddus a phreifat ac mae’n amlinellu'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion i berfformio'n effeithiol ac yn ddiogel mewn unrhyw rôl benodol.

Nod yr adolygiad o Safonau Galwedigaethol ar gyfer argyfyngau sifil posibl yw meithrin cymhwysedd a chapasiti ar draws y llywodraeth, diwydiant a chymdeithas sifil er mwyn galluogi'r DU i wrthsefyll argyfwng ac adfer yn gyflym ar ei ôl.

Nod yr arolwg ymgynghori agored yw asesu a yw 17 o'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol o dan y gyfres o argyfyngau sifil posibl yn addas i'r diben neu a oes angen eu diweddaru.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 30 Medi 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Building resilience skills – national review of resilience competencies | Skills for Justice

Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad yma: Civil Contingencies NOS Consultation 2024 - Resilience (alchemer.eu)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.