BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Her brechiadau SBRI Cymru

‘Bydd y GIG yng Nghymru yn brechu oddeutu 1 miliwn o oedolion a phlant ar draws Cymru yn flynyddol, gan gynnwys imiwneiddiadau plentyndod a’r ffliw.’

Eleni, yn sgil y pandemig COVID-19, bydd darparu’r breichiadau hyn yn fwy o her, yn sgil ystod ehangach o grwpiau agored i niwed (cysgodi), mesurau ymbellhau cymdeithasol, rheoli heintiau a chynnwys brechiad COVID-19. Y senario gorau fyddai brechiad COVID-19 yn cael ei ddarparu ar fyrder i nifer fawr o bobl mewn lleoliadau amgen yn y gymuned o hydref eleni ymlaen.  

Mae SBRI yn edrych at nodi, datblygu ac arddagnos technoleg cyflym.  Ar ddiwedd y prosiect hwn, bydd systemau’n cael eu profi a’u harddangos mewn treial byw gyda GIG Cymru.

Rhaid i arloesiadau fod yn addas ar gyfer eu defnyddio ar fyrder o fewn y GIG, ac yn ddelfrydol eu bod yn addas i’w defnyddio yn fwy eang. Oherwydd y cyfyngiadau ar amser gyda’r her hwn, ni ystyrir datrysiadau gwybodeg.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12pm ar 29 Gorffennaf 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan SBRI.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.