Mae Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn parhau i wynebu galwadau cynyddol a heriau newydd – poblogaeth sy'n heneiddio, newidiadau i ffordd o fyw, disgwyliadau'r cyhoedd a thechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg, y cyfan o fewn cyfyngiadau cyllidebol parhaus. Mae cynllun Cymru Iachach yn nodi uchelgais eang y dylai pawb yng Nghymru fyw bywydau hirach, iachach a hapusach a gallu parhau i fod yn egnïol ac annibynnol, yn eu cartrefi eu hunain, cyhyd ag y bo modd. Fodd bynnag, bydd angen dulliau newydd beiddgar i gyflawni'r weledigaeth hon.
Wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Gofal Cymdeithasol Cymru a'i hwyluso gan Ganolfan Ragoriaeth SBRI, mae'r her ganlynol ar agor ar gyfer ceisiadau: Social Care & Health Living Well Challenge - Domiciliary Care
Y bwriad yw y bydd prosiectau llwyddiannus yn ymdrechion cydweithredol iawn sy'n ymgysylltu â sefydliadau preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector. Er mwyn helpu i gefnogi hyn, mae "marchnad" ar-lein wedi cael ei sefydlu i helpu gwahanol sectorau/sefydliadau gysylltu cyn cyflwyno cais ar gyfer her. Dewiswch y ddolen ganlynol i'w chyrchu: Collaborator Marketplace - Social Care & Health Challenge
Digwyddiadau briffio am ddim
- 27 Medi 2023 – Trosolwg cyffredinol o'r her: Social Care & Health Living Well Challenge – Domiciliary Care Tickets, Wed 27 Sep 2023 at 11:00 | Eventbrite
- 4 Hydref 2023 – Cyfle i'r Trydydd Sector a sefydliadau nid er elw ddeall perthnasedd yr her i'w sector: Social Care & Health Living Well Challenge – Domiciliary Care - 3rd Sector Tickets, Wed 4 Oct 2023 at 10:00 | Eventbrite