BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Her Cynhyrchu a Chyflenwi Bwyd yn Gynaliadwy

Mae pandemig COVID-19, ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd, prisiau ynni cynyddol ynghyd â rhyfel Rwsia-Wcráin wedi cyflwyno heriau i'n systemau bwyd, a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae'r digwyddiadau hyn wedi amlygu pa mor ddibynnol yw'r DU ar fwydydd wedi'u mewnforio. Rydym wedi gweld prisiau bwyd yn codi, silffoedd gwag yn ein harchfarchnadoedd, wedi gwylio lorïau sy'n llawn nwyddau darfodus yn ciwio ar ffiniau ac wedi cael gwybod bod prinder gweithwyr (h.y., gweithwyr bwyd a gyrwyr HGV) yn atal bwytai, archfarchnadoedd, ysgolion, ysbytai a defnyddwyr rhag cael mynediad at y bwyd sydd ei angen arnynt. Mae ein systemau bwyd bregus, 'confensiynol' yn cael eu hamlygu fwyfwy wrth iddyn nhw effeithio'n andwyol ar ein heconomïau, ein hamgylchedd a'n hiechyd. 

Mae'r systemau bwyd 'confensiynol' sydd ar hyn o bryd yn bwydo Cymru wedi’u seilio ar logisteg cymhleth, rhyngwladol a chadwyni cyflenwi bwyd 'hir' sy'n cynnwys llawer o gyfryngwyr. Bydd poblogaethau cynyddol a digwyddiadau tywydd fel llifogydd a sychder a ddaw yn sgil newid yn yr hinsawdd yn ychwanegu pwysau pellach ar ein hadnoddau cyfyngedig, cynyddu costau bwyd a gwneud ein systemau bwyd confensiynol yn fwy heriol - nawr yw'r amser i newid.

Mae Cyngor Caerdydd mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Fynwy yn ceisio amlygu a chefnogi prosiectau i ddatblygu atebion arloesol a all wella cynhyrchiant a chyflenwad bwyd yn gynaliadwy yn sylweddol. Mae'r Her yn chwilio am ymgeiswyr i ddefnyddio potensial tir, technoleg a phobl i gynyddu cynhyrchu a chyflenwi bwyd wedi'i dyfu'n lleol yn gynaliadwy ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Nod yr her £2.1m hon yw gwella cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol, a fydd yn darparu effeithiau economaidd, cymdeithasol, ac amgylcheddol cadarnhaol i'r rhanbarth.
Bydd Digwyddiad Briffio yn cael ei gynnal ar 18 Hydref 2022.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gofrestru ar gyfer y digwyddiad https://www.eventbrite.co.uk/e/the-sustainable-production-supply-of-food-challenge-tickets-427909678367

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Rhagfyr 2022, i gael mwy o wybodaeth am y gystadleuaeth, cliciwch y ddolen ganlynol https://sbri.simplydo.co.uk/challenges/62ba014c104eee8a58984cee


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.