BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Her Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol Plant a Phobl Ifanc

Sut gallwn ni ddarparu cefnogaeth ddigidol o gwmpas ymyriad ac atal cynnar i blant a phobl ifanc rhwng 8-11 oed i feithrin gwytnwch yn eu hiechyd a’u lles emosiynol?

Bydd y ffrwd gwaith Iechyd, Lles a Gwytnwch Emosiynol (rhan o’r Rhaglen Trawsnewid Plant a Phobl Ifanc yng Ngogledd Cymru) yn datblygu fframwaith a fydd yn:

  • Cwmpasu’r ‘Pum Ffordd at Lesiant’
  • Yn ddwyieithog, yn unol â deddf yr Iaith Gymraeg
  • Yn tanategu datblygiad adnoddau
  • Cael ei fapio yn erbyn cerrig milltir datblygiadol plant 8-11 oed
  • Yn canolbwyntio ar ymyriad cynnar i blant a’u teuluoedd 

Mae gan bob sgil craidd neu ymddygiad frawddeg ‘Mi fedraf’ o safbwynt plentyn / unigolyn ifanc, rhiant neu ofalwr ac oedolyn dibynadwy arall.

Yr her SBRI yw i benderfynu ar y dull digidol mwyaf effeithiol i sicrhau bod cynnwys y fframwaith yn hygyrch i ddefnyddwyr sy’n cynnwys y plentyn / unigolyn ifanc, rhiant/gofalwr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol, a bydd yn cael ei gynnal ar sail barhaus.  Bydd cynnwys y fframwaith yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymarfer, ac yn cael ei arwain gan y rhai sy’n gweithio ym meysydd iechyd meddwl, addysg a gofal cymdeithasol.  

Mae'r gystadleuaeth hon yn cau ar 31 Awst 2021.

Am fwy o wybodaeth ar y gystadleuaeth hon, ewch i wefan Canolfan Ragoriaeth SBRI. Am unrhyw ymholiadau ynghylch y gystadleuaeth, e-bostiwch: SBRI.COE@wales.nhs.uk 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.