Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn galw ar fusnesau i gyflwyno atebion arloesol y gellir eu gweithredu yn gyflym i fynd i'r afael â her allweddol sy'n wynebu cydweithwyr deintyddiaeth wrth iddynt barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol.
Bydd atebion addas yn cael 100% o gyllid drwy'r Fenter Ymchwil i Fusnesau Bach (SBRI), i ddarparu astudiaethau dichonoldeb Ymchwil a Datblygu.
Mae’r cystadleuath yn bwriadu nodi, datblygu technolegau atal anadlol ac anadlol sydd yn:
- Gallu eu deilwra i ffitio ystod lawn o siapiau a meintiau wyneb.
- Cydymffurfio â gwerth hidlo gofynnol masgiau anadlol PRESENNOL FFP3.
- Dangos cydymffurfiaeth â safonau FFP3 ac effeithiolrwydd (sy'n cyfateb i nod CE).
- Bydd ganddo ddyluniad wedi'i lywio gan ymarferoldeb darpariaeth triniaeth ddeintyddol glinigol ddiogel, a gallai hefyd fod yn addas ar gyfer defnydd clinigol arall o arbenigedd.
- Gallai fod â'r potensial i integreiddio systemau newydd a/neu wella arferion cyfredol, a thrwy hynny wella “ffit” rhai stociau ffP3 presennol GIG Cymru.
Bydd hyd at 5 prosiect yn cael eu hariannu, a rhagwelir y bydd contractau hyd at £50,000 yn cynnwys TAW yr un.
Digwyddiad Briffio
Dilynwch y ddolen isod a chofrestrwch eich diddordeb ar gyfer y Digwyddiad Briffio rhithwir a fydd yn cael ei gynnal ar 23 Tachwedd 2020 am 10am.
https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/sbri-her-mwgwd-gwyneb/
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 4 Rhagfyr 2020, I gael rhagor o wybodaeth ewch i: sdi.click/facemasks
Ar gyfer unrhyw ymholiadau am y gystadleuaeth hon e-bost: SBRI.COE@wales.nhs.uk