Mae Airbus Endeavr Wales yn bodoli i helpu i wireddu syniadau arloesol. Caiff ei gefnogi’n ariannol gan Airbus a Llywodraeth Cymru – gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd (sy’n cynrychioli pob sefydliad addysg uwch yng Nghymru).
Eleni, mae Airbus Endeavr Wales yn chwilio am geisiadau ar gyfer prosiectau ymchwil yn eu camau cynnar i ddarparu syniadau ar gyfer yr heriau isod:
- Her 1: Canfod Gwybodaeth a Grëwyd gan Ddeallusrwydd Artiffisial - I ganfod cynnwys a grëwyd gan ChatGPT a modelau AI cynhyrchiol eraill mewn cynnwys testun a gweledol. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, dilynwch y ddolen ganlynol Airbus Endeavr - Detection of Information Generated by Artificial Intelligence
- Her 2: Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial i Ganfod a/neu Ddisodli PFAS – Mae canfod ac amnewid cemegau Sylweddau Polyfflworoalcyl (PFAS) yn mynnu ymagwedd arloesol at ddadansoddi symiau mawr o ddata sydd ar gael, gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial o bosibl. Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, dilynwch y ddolen ganlynol Airbus Endeavr - Using Artificial Intelligence for the Identification and/or Replacement of PFAS
Mae cyfanswm o £600,000 o gyllid ar gael ar draws y ddwy her, gyda swm amcangyfrifedig o rhwng £60,000 a £120,000 i’w ddyrannu fesul prosiect 3 blynedd.
Y dyddiad cau ar gyfer y ddwy her yw 11:55pm ddydd Llun 27 Tachwedd 2023.