Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Uchelgais Cronfa Her rhaglen Arfor fydd i archwilio datrysiadau sydd yn cryfhau’r berthynas rhwng iaith ac economi, a rydym yn chwilio am gynlluniau sy’n cynnig profi’r canlynol:
- Mae defnyddio iaith yn rhoi hwb i'r economi
- Mae defnyddio iaith yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth newydd i gyflogwyr a staff
- Mae defnyddio iaith yn gallu helpu i greu brand ac atyniad i fusnesau
- Mae defnyddio iaith yn gallu tanio ymdeimlad o falchder, gan gynnwys teimlo’n perthyn i gymuned a chael cyfle i siarad â phobl eraill sy'n siarad yr un iaith
Bydd Cronfa Her Arfor ar agor i geisiadau cydweithredol rhwng unrhyw unigolion, sefydliadau, grwpiau cymunedol neu busnesau sy’n barod i ddangos datrysiad arloesol i her sy’n bodoli yn eu cymuned leol.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Snap Surveys (welcomesyourfeedback.net)