BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hunanasesu: peidiwch ag anghofio datgan taliadau COVID-19

Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn atgoffa cwsmeriaid hunangyflogedig bod yn rhaid iddyn nhw ddatgan taliadau COVID-19 yn eu ffurflen dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022.

Mae'r grantiau hyn yn drethadwy a dylid eu datgan ar ffurflenni treth ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022 cyn y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2023.

Y cyfnodau ar gyfer gwneud cais a thaliadau’r Cynllun Cymorth Incwm  Hunangyflogaeth (SEISS) yn ystod blwyddyn dreth 2021 i 2022 oedd: 

  • SEISS 4: 22 Ebrill 2021 i 1 Mehefin 2021
  • SEISS 5: 29 Gorffennaf 2021 i 30 Medi 2021

Nid SEISS yw'r unig gynllun cymorth COVID-19 y dylid ei ddatgan ar ffurflenni treth. Os cafodd cwsmeriaid daliadau cymorth eraill yn ystod blwyddyn dreth 2021 i 2022, efallai y bydd angen iddynt adrodd hyn ar eu ffurflen dreth os ydynt: 

  • yn hunangyflogedig
  • mewn partneriaeth
  • yn fusnes

Gall cwsmeriaid wirio pa grantiau neu daliadau COVID-19 sydd angen iddyn nhw eu hadrodd i CThEF ar GOV.UK. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.