BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb enfawr i'r sector gofal plant yng Nghymru wrth i ryddhad ardrethi busnesau bach gael ei wneud yn barhaol

child stacking wooden building blocks

Ni fydd yn rhaid i safleoedd gofal plant cofrestredig dalu ardrethi busnes mwyach.

Amcangyfrifir y bydd yn arbed £3.4 miliwn y flwyddyn i'r sector, a bydd y rhyddhad ardrethi annomestig sydd bellach yn barhaol ar gyfer safleoedd gofal plant yn cefnogi darparwyr gofal plant i fuddsoddi mewn staff, creu swyddi newydd a lleihau codiadau ffioedd i rieni.

Diolch i'r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, nid yw safleoedd fel meithrinfeydd dydd wedi talu ardrethi busnes yng Nghymru ers 2019 - gan helpu llawer i fynd i'r afael â chostau cynyddol a pharhau i weithredu.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Hwb enfawr i'r sector gofal plant yng Nghymru wrth i ryddhad ardrethi busnesau bach gael ei wneud yn barhaol | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.