BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb Gwybodaeth

Volunteers

Os ydych chi'n ymwneud â gwaith elusen, sefydliad gwirfoddol, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol, mae adnoddau am ddim ar gael i chi ar yr Hwb Gwybodaeth.

Banc o wybodaeth ac adnoddau dysgu ar-lein ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru yw’r Hwb Gwybodaeth. Ei ddiben yw helpu'r rhai yn y sector i uwchsgilio, dysgu a chael gafael ar wybodaeth o ansawdd uchel ar feysydd allweddol fel rhedeg sefydliad, gwirfoddoli, ariannu a dylanwadu.

Yn ogystal â detholiad o daflenni gwybodaeth a chyrsiau ar-lein, mae’r Hwb Gwybodaeth hefyd yn rhoi cyfle i rwydweithio gyda chyfoedion.

Mae'r Hwb Gwybodaeth yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio ar gyfer unrhyw un sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn y sector gwirfoddol yng Nghymru, neu'r rheini sydd eisiau bod yn rhan o’r sector am y tro cyntaf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.