BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb Hinsawdd BBaChau

Bydd Hwb Hinsawdd BBaChau - a gynhelir ar y cyd gan y Siambr Fasnach Ryngwladol (ICC), y Fenter Map Ffordd Mynegrifol, y glymblaid We Mean Business ac ymgyrch Race to Zero y Cenhedloedd Unedig - yn cefnogi busnesau bach a chanolig i leihau eu hallyriadau carbon er mwyn sicrhau mwy o gystadleuaeth, magu cadernid busnesau ac ennill mantais gystadleuol.

Bydd Hwb Hinsawdd BBaChau yn annog cwmnïau bach a chanolig i ymrwymo i haneru eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr cyn 2030 a chyrraedd statws dim allyriadau cyn 2050.

Bydd BBaChau sy’n ymrwymo - a fydd yn cael eu cydnabod yn fyd-eang gan ymgyrch Race to Zero y Cenhedloedd Unedig - yn gallu manteisio ar offer ac adnoddau hygyrch i’w helpu i leihau allyriadau a magu cadernid eu busnes. Bydd y platfform yn paru’r adnoddau hyn sydd wedi’u teilwra gyda chyfleoedd i fusnesau ddatgloi cymhellion masnachol uniongyrchol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan ICC.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.