BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb Hinsawdd BBaChau

Mae Hwb Hinsawdd BBaChau yma i helpu busnesau bach i gyflawni eu nodau hinsawdd.

Mae Hwb Hinsawdd BBaChau wedi datblygu adnoddau ymarferol am ddim sydd wedi'u teilwra'n benodol i gefnogi BBaChau ar eu taith sero net trwy leihau allyriadau strategol a chyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth hinsawdd. Gall busnesau gyfrifo eu hallyriadau gyda'r Business Carbon Calculator, dysgu sut i gymryd camau gweithredu gyda'r cwrs addysg Climate Fit a chael cefnogaeth drwy'r canllaw Financial Support a’r 1.5°C Business Playbook.

Mae Hwb Hinsawdd BBaChau hefyd wedi ffurfio partneriaeth â Phrifysgol Rhydychen i ddarparu llyfrgell o offer allanol i BBaChau sy'n cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n cymryd camau pendant tuag at weithredu ar yr hinsawdd.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Tools and resources - SME Climate Hub

Cofrestrwch ar gyfer Addewid Twf Gwyrdd Busnes Cymru sy’n helpu busnesau yng Nghymru i gymryd camau rhagweithiol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos eu heffaith gadarnhaol ar y bobl a'r lleoedd o'u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy'n helpu Cymru i newid i ddyfodol carbon isel.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.