BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb o £1 miliwn i rwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig

Machynlleth

Mae'r Dirprwy Weinidog Hinsawdd Lee Waters wedi cyhoeddi heddiw (11 Mawrth 2024) y bydd Llywodraeth Cymru buddsoddi £1 miliwn i greu rhwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig.

Daw'r cam fel rhan o gynlluniau i gyrraedd targedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau carbon gyda'r nod o sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus, teithiau cerdded a beicio yn cyfrif am 45% o deithiau erbyn 2040.

Mae’r cyhoeddiad yn adeiladu ar gamau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd i wella hygyrchedd o fewn cymunedau gwledig, fel y gwasanaeth bws Fflecsi, sy'n ymateb i'r galw.

Bydd y cynlluniau ar gyfer clybiau ceir, sy'n darparu ffordd hawdd a fforddiadwy i bobl rannu manteision defnyddio car, heb y gost o fod yn berchen ar un, yn cael eu gweithredu mewn cymunedau gwledig ledled Cymru gan gynnwys y Drenewydd, Llanidloes, Y Trallwng, Machynlleth, Crymych, Cwmllynfell, Cilgeti, Llanymddyfri a Llandrindod.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Hwb o £1m i rwydwaith o glybiau ceir ar gyfer cysylltu cymunedau gwledig | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.