BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb o £1 miliwn i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru

Seagulls and fishing nets on the harbour in Conwy

Mae'r Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths wedi cyhoeddi bod £1 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru ar gael i roi hwb i'r diwydiant morol, pysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru.

Daw'r gefnogaeth gan Gynllun Morol a Physgodfeydd Cymru, gyda'r cyfnod ymgeisio ar gyfer y cyllid hwn yn agor heddiw. Nod y cynllun yw sicrhau twf amgylcheddol ac economaidd cynaliadwy yn y sector a helpu cymunedau arfordirol i ffynnu yn y dyfodol.

Gall y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant wneud cais am gyllid ar gyfer ystod eang o weithgareddau o 11 categori ar wahân.

Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyllid i gynyddu potensial safleoedd dyframaethu ac offer ar longau gyda'r nod o leihau allyriadau a chynyddu effeithlonrwydd ynni. Mae hefyd yn cynnwys cyngor proffesiynol i fusnesau yn amrywio o gynaliadwyedd yr amgylchedd morol i strategaethau busnes a marchnata. Gallai ymgeiswyr hefyd wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau i gynnal ymchwil ar anghenion diogelwch, iechyd a llesiant ar gyfer y sector.

Uchafswm y dyfarniad grant yw £100,000 a'r isafswm yw £500. Bydd y cyfnod ymgeisio yn dod i ben ar 10 Mai 2024 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu yn ystod mis Gorffennaf 2024.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru ar Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein, lle gellir dod o hyd i'r prosesau ymgeisio a hawlio. Mae manylion y cynllun, gan gynnwys canllawiau, i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.