BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hwb sgiliau o £3 miliwn i’r sector digidol a’r sector Gwyrdd

Mae Gweinidogion wedi cadarnhau heddiw bod rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu pobl 19 oed a hŷn i wella eu sgiliau a'u rhagolygon cyflogaeth wedi cael hwb o £3 miliwn i ganolbwyntio ar sgiliau digidol a sgiliau sero net.

Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cefnogi unigolion ar incwm is a'r rheini y mae eu swyddi mewn perygl, i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a helpu i newid trywydd eu gyrfaoedd.

Bydd £1 miliwn yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi pobl mewn amrywiol feysydd gan gynnwys seiber, rhaglennu, dadansoddi data, seilwaith rhwydwaith a’r cwmwl, rheoli cronfeydd data, a sgiliau dadansoddi digidol.

Bydd £2 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gefnogi unigolion naill ai i uwchsgilio neu i ailsgilio mewn sgiliau sero net, a fydd yn helpu i ddatblygu gweithlu medrus iawn i gefnogi Cymru i symud tuag at sero net. Y sectorau a gefnogir fydd adeiladu, ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu. 

Hyd yn hyn mae dros £51 miliwn wedi cael ei fuddsoddi ac mae bron i 30,000 o oedolion yng Nghymru wedi elwa ers i Gyfrifon Dysgu Personol gael eu lansio yn 2019, gyda dros 16,000 o unigolion wedi cofrestru yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig.

Mae'r cyrsiau hyblyg, sydd am ddim, ar gael ledled Cymru drwy 13 o golegau. Maent yn darparu hyfforddiant galwedigaethol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau er mwyn sicrhau bod anghenion yr economi yn cael eu diwallu yn y dyfodol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Hwb sgiliau o £3 miliwn i’r sector digidol a’r sector gwyrdd | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.