BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hybiau arloesedd rhanbarthol arbenigol yn cael hwb gwerth £75 miliwn i ymchwil, busnesau ac economïau lleol ledled y DU

Hands holding light bulb for Concept new idea concept with innovation and inspiration

Mae clystyrau rhanbarthol o arloesedd o'r radd flaenaf ledled y DU yn cael eu cefnogi gan gyfran o £75 miliwn a fydd yn rhoi hwb i economïau lleol ac arloesi atebion sy'n cael effaith fawr o ofal iechyd i sero net.

Yn dilyn cynlluniau peilot yn Lerpwl a Teesside, a lansiwyd yn gynharach eleni, bydd 8 Launchpad arall, a hwylusir gan Innovate UK, yn cael eu cyflwyno ledled holl wledydd y DU. Bydd y mentrau hyn yn adeiladu ar glystyrau presennol o arloesedd uwch-dechnoleg ym mhob rhanbarth, fel ynni adnewyddadwy yn ne-orllewin Cymru, amaeth-dechnoleg yn East Anglia ac iechyd digidol yn Swydd Efrog.  

Mae Launchpads yn rhaglen sy'n cefnogi clystyrau sy'n dod i'r amlwg o fusnesau bach a chanolig drwy ddarparu hyd at £7.5 miliwn i bob Launchpad gan Innovate UK i ariannu prosiectau arloesi wedi’u harwain gan fusnesau lleol.

Bydd y cyllid pwrpasol gwerth £7.5 miliwn gan bob Launchpad yn caniatáu i BBaChau ym mhob rhanbarth wneud cais am gymorth sydd wedi'i deilwra i anghenion unigryw pob clwstwr busnes, gan eu helpu i ysgogi arloesedd, ehangu gweithrediadau, a rhoi hwb i'w heconomïau lleol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Expert regional innovation hubs given £75 million boost to local research, businesses and economies across UK - GOV.UK 

Mae gen Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: CRISP23 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.