Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) wedi datblygu cyfres o ganllawiau i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gyda'r nod o wella eu lles ariannol drwy addysg ariannol o ansawdd da.
Nod y canllawiau yw helpu awdurdodau lleol a staff gwasanaethau plant eraill, sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchiadau bregus, i wreiddio cyfleoedd i ddysgu am arian i'r gefnogaeth maen nhw'n ei ddarparu. Maen nhw'n nodi sut mae lles ariannol yn cyd-fynd â'u dyletswyddau a'u blaenoriaethau ehangach ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae pedwar canllaw ar gael ac mae'r rhain yn ganllawiau i arweinwyr a gwneuthurwyr penderfyniadau gwasanaethau plant a phobl ifanc yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r canllawiau a'r pecyn cymorth wedi cael eu llywio trwy ymgynghori ag arweinwyr gwasanaethau plant a phobl ifanc, ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn amgylchiadau a sefydliadau bregus sy'n cynrychioli lleisiau plant a phobl ifanc.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Guidance for children and young people’s services: delivering financial wellbeing for children and young people in vulnerable circumstances | The Money and Pensions Service (maps.org.uk)