BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyfforddiant am Ddim yn y Gweithle - Iechyd Meddwl

Online Zoom meeting - colleagues from different locations

Mae Mind Canolbarth a Gogledd Powys yn cynnig hyfforddiant yn y gweithle Iechyd Meddwl am ddim i staff unrhyw sefydliad sydd wedi'i leoli ym Mhowys, gyda llai na 250 o weithwyr a throsiant o lai na £50 miliwn.
Manylion isod:

  • 5 Ffordd i Les – 10 am i 1pm, 29 Ionawr 2025
  • Rheoli Straen – 10 am i 1pm, 4 Chwefror 2025
  • Gwydnwch yn y Gweithle – 10am i 1pm, 25 Chwefror 2025
  • Ffiniau Proffesiynol – 10am i 1pm, 4 Mawrth 2025
  • Pendantrwydd – 10am i 1pm, 7 Mawrth 2025
  • Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl – 10am i 1pm, 13 Mawrth 2025
  • Pob un yn cael ei ddosbarthu ar-lein trwy Zoom.

Mae'r hyfforddiant hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol Business Support – In-Work Support Service in Powys neu i archebu cwrs hyfforddi, cysylltwch â Jo yn jo@mnpmind.org.uk 

Ydych chi'n trafod iechyd meddwl yn y gwaith? 

Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i dalu sylw i iechyd meddwl yn y gweithle. Nid yw straen yn broblem iechyd meddwl ond gall dros amser heb ei reoli achosi, neu waethygu problemau iechyd meddwl. Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.