BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyfforddiant ar Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch - Digidol ar gyfer y Trydydd Sector

Electronic padlock

Pan ddaw hi i amddiffyn eich mudiad rhag seiberdrosedd, gall eich pobl fod yr ased mwyaf, a chydag hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch, gallant ddod yn rhwystrau effeithiol tu hwnt i seiberdrosedd.

Bydd yr hyfforddiant hwn ar seiberddiogelwch yn cynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o risgiau seiberddiogelwch a sut i’w lliniaru yn eich mudiad.

Bydd y sesiynau yn ymdrin â’r canllawiau canlynol gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:

  • Cyflwyniad i Seiberwydnwch
  • Pam mae’n bwysig
  • Gwahanol fathau o wendidau sy’n bodoli (technegol/annhechnegol)
  • Peirianneg Gymdeithasol
  • Cyfrineiriau cryf a’u pwysigrwydd
  • Rhwydo (Gwe-rwydo, Llais-rwydo, Rhwydo drwy e-bost ac SMS-rwydo)
  • Cyfryngau cymdeithasol a’r hyn rydych chi’n ei roi arnynt
  • Cadw dyfeisiau’n gyfredol
  • Meddalwedd wystlo
  • Ymosodiadau a dyfir yn lleol a’r Effaith

Mae’r hyfforddiant wedi’i anelu at y rheini heb lawer o seiberddiogelwch na gwybodaeth dechnegol, os o gwbl, a chaiff ei gyflwyno mewn modiwlau byr, cryno gan ddefnyddio enghreifftiau o’r byd go iawn.

Cynhelir yr hyfforddiant ar-lein am ddim ar 6 a 21 Chwefror 2024 rhwng 2pm a 4:30pm.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o seiberddiogelwch - CGGC (wcva.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.