BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch ar gyfer Busnesau Bach

A programmer is typing a code on a keyboard to protect a cyber security from hacker attacks and save clients confidential data.

Gweithwyr ywr haen gyntaf amddiffyniad seiber mewn unrhyw fusnes felly mae sicrhau eu bod yn gallu sylwi ar broblemau neu risgiau seiberddiogelwch cyffredin yn hanfodol.

Mae Canolfan Seiber Gydnerth Cymru (WCRC) yn lansio sesiynau hyfforddi staff mewn Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch.

Mae Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Ddiogelwch yn rhoi dealltwriaeth sylfaenol ond effeithiol i weithwyr o'u hamgylchedd seiber a'r hyder i adnabod a thynnu sylw at unrhyw broblemau diogelwch posibl.

Mae'r pynciau’n cynnwys:

  • adnabod peirianneg gymdeithasol 
  • sut i amddiffyn rhag y gwahanol 'ishings' e.e. gwe-drywanu, llais-rwydo, gwe-rwydo e-bost ac SMS-rwydo
  • pwysigrwydd cyfrineiriau cryf
  • ymddygiad ar y cyfryngau cymdeithasol 
  • delio ag ymosodiad meddalwedd wystlo

Mae'r hyfforddiant wedi'i anelu at y rhai sydd ag ychydig neu ddim gwybodaeth dechnegol a chaiff ei gyflwyno mewn modiwlau bach, cryno a gefnogir gan enghreifftiau o'r byd go iawn sy'n berthnasol i gyd-destun eich busnes.

Mae'n costio £60 yn unig ar gyfer un person, gyda phob person ychwanegol yn costio £10 (+TAW) yr un. I drefnu sesiwn hyfforddi, cliciwch ar y ddolen ganlynol Security Awareness Training (SAT) for Small Businesses (office365.com)

Os hoffech gael mwy o wybodaeth ynghylch a yw'r gwasanaeth hwn yn addas ar gyfer eich busnes chi, cysylltwch ag enquiries@wcrcentre.co.uk 

Mae WCRC yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o CRCs nid er elw sy'n gweithio gyda busnesau lleol a'r gadwyn gyflenwi i gryfhau cydnerthedd seiber ledled Cymru. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.