BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

ICC - Ymchwil Ddilynol i Ddeall Agweddau Cyflogwyr tuag at Iechyd a Lles yn y Gweithle

Ydych chi'n gyflogwr gyda staff yng Nghymru? 

Os felly, mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) ddiddordeb mewn clywed am eich profiad fel rhan o’u hymchwil i ddealldwriaeth cyflogwyr o’r berthynas rhwng iechyd a lles gweithwyr a gwaith, a’r anghenion cysylltiedig. Maen ICC wedi comisiynu Opinion Research Services (ORS), cwmni ymchwil annibynnol, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, i wneud yr ymchwil i wneud yr ymchwil, a ddylai gymryd dim ond 10 munud i'w gwblhau.

Mae dyddiad cau'r arolwg wedi cael ei ymestyn tan 19 Mawrth 2023.

Am ragor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Iechyd Cyhoeddus Cymru - Ymchwil Ddilynol i Ddeall Agweddau Cyflogwyr tuag at Iechyd a Lles yn y Gweithle (ors.org.uk)

Cynhaliwyd yr arolygon blaenorol yn 2019 a 2021.

Bydd y canlyniadau ar gael ar wefan Cymru Iach ar Waith erbyn mis Ebrill/Mai 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen i chi gysylltu â ni am yr arolwg, anfonwch e-bost at y tîm yn IechydynyGweithle@wales.nhs.uk

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.