Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru ar iechyd a diogelwch ar gyfer yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a dros dro.
Mae’r economi gig yn tyfu ac mae’r ffyrdd y mae pobl yn gweithio yn newid, felly mae angen i gyflogwyr feddwl yn wahanol am ffyrdd o gadw gweithwyr yn iach a diogel.
Mae eu canllawiau ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys trosolwg o’r rheswm y dylai cyflogwyr ystyried yr economi gig, gweithwyr asiantaeth a dros dro.
Mae canllawiau ar gyfer gweithwyr yn cyd-fynd â’r rhain, ac yn nodi eu cyfrifoldebau a sut y dylai eu cyflogwyr eu hamddiffyn.
Mae dolenni hefyd at gyngor perthnasol ar gyfer sectorau penodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, adeiladu, lletygarwch, glanhau a chludiant/logisteg.
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am gymorth a gwybodaeth ar gadw pobl yn ddiogel ac iach yn y gwaith.