BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Iechyd a diogelwch gweithwyr tymhorol a gweithwyr dros dro

warehouse workers wearing santa hats

Gyda llawer o swyddi tymhorol ar gael yr adeg hon o'r flwyddyn, rhaid i gyflogwyr flaenoriaethu iechyd a diogelwch gweithwyr yr economi gìg, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro.

Mae gweithwyr yr un mor debygol o gael damwain yn ystod y 6 mis cyntaf mewn gweithle ag y maent yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllawiau ar 6 ffordd i ddiogelu'r rhai sy'n newydd i'r gwaith.

Mae cyngor ar gael hefyd i helpu defnyddwyr a chyflenwyr gweithwyr asiantaeth a gweithwyr dros dro i ddeall eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch.

Os ydych yn weithiwr asiantaeth neu’n weithiwr dros dro, mae'r gyfraith yn diogelu eich iechyd a’ch diogelwch a rhaid i fusnesau cyflogaeth (asiantaethau) sicrhau eu bod yn dilyn y gofynion hyn ar gyfer pob gweithiwr asiantaeth neu weithiwr dros dro.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.