BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Iechyd a diogelwch i weithiwyr newydd a dros dro

Â’r haf yn prysur nesáu a’r cynnydd mewn gwaith tymhorol yn sgil hynny, mae gweithwyr mor debygol o gael damwain yn ystod y chwe mis cyntaf mewn gweithle ag y maen nhw yn ystod gweddill eu bywyd gwaith.

Mae’r risg ychwanegol yn digwydd oherwydd y canlynol:

  • diffyg profiad o weithio mewn diwydiant neu weithle newydd
  • ddim yn gyfarwydd â'r swydd a’r amgylchedd gwaith
  • amharodrwydd i fynegi pryderon (neu ddim yn gwybod sut i wneud hynny)
  • awydd i greu argraff ar gydweithwyr a rheolwyr

Mae hyn yn golygu efallai na fydd gweithwyr newydd ar safle:

  • yn adnabod pethau a allai fod yn ffynhonnell o berygl
  • yn deall rheolau ‘amlwg’ wrth ddefnyddio cyfarpar
  • yn gyfarwydd â chynllun y safle - yn enwedig lle gallai peryglon newid o ddydd i ddydd
  • yn talu sylw i arwyddion rhybudd a rheolau, neu efallai byddant yn torri corneli

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi llunio canllawiau ar ddiogelu gweithwyr newydd.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.