BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Iechyd a Gofal Cymdeithasol – cyfraniadau yswiriant gwladol yn codi

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cysylltu â chyflogwyr am eu cymorth i helpu gweithwyr i ddeall bod y cyfraniad Yswiriant Gwladol cynyddol o 1.25 pwynt canran o 6 Ebrill 2022 yn helpu i ariannu'r GIG, iechyd a gofal cymdeithasol.  

Maen nhw'n gofyn i gyflogwyr gynnwys neges ar slip cyflog pob gweithiwr a gaiff ei effeithio gan hyn, rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023, gan esbonio'r cyfraniad Yswiriant Gwladol cynyddol. Dylai'r neges ddweud; "Mae cynnydd o 1.25% mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn ariannu'r GIG, iechyd a gofal cymdeithasol."

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, ewch i Paratoi ar gyfer yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol - GOV.UK (www.gov.uk) 

Mae CThEM mewn cysylltiad â darparwyr meddalwedd y gyflogres i ofyn iddyn nhw gynnwys y negeseuon hyn yn eu meddalwedd a'u modelau cymorth ehangach, ond yn sylweddoli y bydd angen i rai cyflogwyr wneud y newid yn uniongyrchol. 

Efallai'ch bod eisoes wedi gweld y cais hwn yn rhifynnau mis Rhagfyr 2021 a mis Chwefror 2022 o Bwletin y Cyflogwr.    

Fel cefndir i'r cais hwn, ar 7 Medi 2021 cyhoeddodd  llywodraeth San Steffan Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol newydd o 1.25% er mwyn ariannu buddsoddiad yn y GIG, iechyd a gofal cymdeithasol.

Cyflwynir yr Ardoll o fis Ebrill 2022 pan fydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol i weithwyr dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, pobl hunangyflogedig a chyflogwyr yn cynyddu 1.25 pwynt canran ac yn cael eu hychwanegu at ddyraniad cyllid presennol y GIG. 

O fis Ebrill 2023, bydd yr Ardoll yn cael ei gwahanu'n ffurfiol oddi wrth gyfraniadau Yswiriant Gwladol a bydd hefyd yn berthnasol i enillion unigolion sy'n gweithio dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Yna bydd cyfraddau cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn dychwelyd i lefelau 2021 i 2022 a bydd derbyniadau o'r Ardoll yn mynd yn uniongyrchol at wariant ar iechyd a gofal cymdeithasol. 

Am ragor o wybodaeth ewch i Paratoi ar gyfer yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol - GOV.UK (www.gov.uk) 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.