Llesiant i Bawb weminar, fydd yn cael ei chynnal gan gynghorwyr o’r tîm Cymru Iach ar Waith, yn cynnig mewnwelediadau a gwybodaeth werthfawr am gydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a’u rôl bwysig mewn llesiant, gyda ffocws penodol ar anabledd.
Mae’r weminar hon yn addas ar gyfer rheolwyr, rheolwyr Adnoddau Dynol, swyddogion diogelwch yn y gweithle, ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd y weminar yn canolbwyntio ar lesiant cynhwysol gan gynnwys mewn perthynas ag anabledd yn y gweithle.
Trwy fynd i’r weminar hon, bydd y cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth a gwybodaeth am y canlynol:
- Llesiant yn y gweithle
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Penderfynyddion cymdeithasol iechyd a'r naw nodwedd warchodedig o fewn y gyfraith.
- Y rhwystrau a’r stigmâu cyffredin yn y gweithle.
- Adnoddau defnyddiol ar gyfer rhoi cynllun gweithredu llesiant ar waith
Mae’r weminar yn rhad ac am ddim, a bydd pob mynychwr cofrestredig yn cael copi o ddeunyddiau’r weminar a thystysgrif presenoldeb.
Cynhelir y weminar ar 30 Ionawr 2024 gydag opsiwn bore a phrynhawn, dewiswch un o'r dolenni canlynol i archebu eich lle:
I gadw eich lle, cofrestrwch erbyn dydd Mawrth 24 Ionawr 2024.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech gael gwybodaeth ychwanegol, anfonwch neges i iechydynygweithle@wales.nhs.uk