Mae Inclusive Smart Solutions yn Rhaglen £2.75 miliwn a ariennir gan Raglen Hyblygrwydd ac Arloesi £65 miliwn yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net, sy’n ceisio galluogi hyblygrwydd system drydan eang ar raddfa fawr trwy dechnolegau a marchnadoedd clyfar, hyblyg, diogel, a hygyrch.
Mae system ynni glyfar a hyblyg yn hanfodol i’n dyfodol ar gyfer yr holl ddefnyddwyr. Mae hyn yn creu risgiau a chyfleoedd o ran sut gall defnyddwyr elwa ar y system ynni, a bod yn rhan ohoni. Mae risg y gallai’r cynhyrchion a’r gwasanaethau arloesol a fydd yn cynorthwyo’r pontio hwn ddwysáu rhwystrau penodol, a chyflwyno rhwystrau newydd, ar gyfer rhai grwpiau o ddefnyddwyr, yn cynnwys defnyddwyr incwm isel a bregus. Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd cymryd rhan mewn system ynni glyfar a hyblyg.
Nod y rhaglen Inclusive Smart Solutions yw mynd i’r afael â’r heriau hyn trwy ddarparu dealltwriaeth well o’r rhwystrau sy’n wynebu defnyddwyr incwm isel a bregus wrth bontio i system ynni glyfar a hyblyg; a datblygu cyfres o atebion arloesol a fydd yn hwyluso cyfranogiad cynyddol defnyddwyr incwm isel a bregus yn y system ynni glyfar a hyblyg sy’n datblygu.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 24 Ionawr 2024.
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Inclusive Smart Solutions - Energy Systems Catapult