BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn arwyddo cytundeb partneriaeth newydd

Mae cynllun newydd i roi hwb i fusnes yng Nghymru wedi’i ddatblygu gan Innovate UK, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi'i lansio, gan baratoi'r ffordd ar gyfer economi arloesedd gryfach.

  • Mae asiantaeth arloesedd y DU, Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynllun ar y cyd er mwyn helpu i ddatblygu economi Cymru.
  • Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Gweinidog Economi Cymru a Phrif Swyddog Gweithredol Innovate UK, y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cyntaf i’w gytuno gyda llywodraeth ddatganoledig.
  • Bydd y cynllun yn golygu bod Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i greu cyfleoedd i arloeswyr ac entrepreneuriaid ledled Cymru.

Llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth mewn digwyddiad a gynhaliwyd heddiw (27 Ebrill 2023) gydag arweinwyr busnes o'r rhanbarth, yn AMRC Cymru, ym Mrychdyn yn y gogledd, sy'n rhan o glwstwr arloesi Canolfan Ymchwil Uwch-weithgynhyrchu (AMRC) Prifysgol Sheffield o fewn y diwydiant.

Mae tair thema i'r alwad i weithredu:

  1. Cysylltu Cymorth; sicrhau bod gan randdeiliaid yng Nghymru lwybrau clir ac effeithiol i gynlluniau cefnogi arloesedd, sy'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn bartner yng ngwasanaeth cymorth busnes Innovate UK, 'EDGE', a'r ddau sefydliad sy'n cydweithio ar ddylunio rhaglenni arloesi'r dyfodol.
  2. Ysgogi Arloesedd; rhannu a datblygu sianeli cyfathrebu, cynyddu mynediad at asedau arloesi yng Nghymru, a nodi blaenoriaethau cyffredin y sector.
  3. Data; Rhannu mwy o ddata i gyflawni nodau cyffredin, defnyddio data i ddeall anghenion y gynulleidfa yn well, er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau a hybu mynediad at gyfleoedd i bobl leol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Innovate UK a Llywodraeth Cymru yn arwyddo cytundeb partneriaeth newydd | LLYW.CYMRU



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.