BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Innovate UK – cyfleoedd cyllido newydd

Innovate UK smart grants: 2023

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer arloesiadau ymchwil a datblygu trawsnewidiol sy’n fasnachol hyfyw, a all gael effaith sylweddol ar economi’r DU. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 27 Medi 2023. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Innovate UK smart grants: June 2023 – UKRI

Ofgem, rownd 3: galwad am syniadau

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £450 miliwn ar gyfer cyflawni sero net am y gost isaf i ddefnyddwyr, a chynorthwyo busnesau arloesol i dyfu a datblygu. Nid oes dyddiad cau ar gyfer y cyfle hwn. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Ofgem round three: call for ideas – UKRI

Datgarboneiddio diwydiannol: cynlluniau lleol

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £5 miliwn i ddatblygu cynlluniau strategol ar gyfer datgarboneiddio diwydiannol yn seiliedig ar leoedd. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 2 Awst 2023. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Industrial decarbonisation: local industrial decarbonisation plans – UKRI

Technolegau arloesol: gweithgynhyrchu meddyginiaethau asid niwclëig, rownd 2

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £5 miliwn ar gyfer arloesi mewn gweithgynhyrchu meddyginiaethau asid niwclëig. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 19 Gorffennaf 2023. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Innovative technologies: nucleic acid medicines manufacture round two – UKRI Engineering biology collaborative R&D

Ymchwil a Datblygu cydweithredol ym maes bioleg peirianneg, rownd 2

Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £6.7 miliwn i ddatblygu technolegau, prosesau, cynhyrchion a gwasanaethau bioleg peirianneg fel datrysiad ar gyfer heriau cymdeithasol. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 26 Gorffennaf 2023. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Engineering biology collaborative R&D round two – UKRI

Knowledge Asset Grant Fund: 2023

Gall sefydliadau sector cyhoeddus cymwys yn y DU wneud cais am hyd at £25,000 gan y Knowledge Asset Grant Fund, i helpu i fanteisio ar asedau anniriaethol sydd â sylfaen ehangach o gleientiaid na’u sefydliad perchnogol. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 7 Medi 2023. I ddarganfod rhagor a gwneud cais, ewch i Knowledge Asset Grant Fund: explore, autumn 2023 – UKRI


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.