BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

The Institute of the Motor Industry - Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol

car repair - mechanic

Bydd adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer:

  • Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn 
  • Mecanyddol, Trydanol a Thrim
  • Modurol Craidd 

Mae'n digwydd tan 31 Mawrth 2025.

Y mae’r SGC yn gosod allan y sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sy’n angenrheidiol gan gyflogwyr i gyflawni tasg benodol neu swydd i safon genedlaethol gydnabyddedig. 

Dyma gyfle pwysig i sicrhau bod y safonau ar gyfer y diwydiant modurol yn berthnasol, yn gywir ac yn feincnod pwysig ar gyfer y diwydiant a chymwysterau ar draws y DU. 

Er mwyn helpu y Institute of the Motor Industry (IMI) wneud hyn, mae angen pobl wybodus o’r diwydiant i’n cynorthwyo gyda’r gwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn yr adolygiad hwn neu yn y gwaith o ddatblygu SGC yn y dyfodol, cysylltwch â Caroline Harris, carolineh@theimi.org.uk, erbyn 10 Medi 2024.

Yn unol â Safonau’r Gymraeg, hoffai’r IMI eich gofynion iaith. A allech roi gwybod iddynt ym mha iaith yr hoffech dderbyn unrhyw ohebiaeth yn ymwneud ag adolygiad / datblygiad NOS yn y dyfodol:

  • Cymraeg 
  • Saesneg 
  • Dwyieithog (Cymraeg a Saesneg)

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Current NOS Projects - 2024/25 | Institute of The Motor Industry (theimi.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.