BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ionawr 2024: Cyfleoedd cyllido newydd gan Innovate UK

lightbulb and a stack of coins

Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: CRISP23 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein.

Creative Catalyst 2024

Gall busnesau micro neu fusnesau bach sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig (DU) yn y sector diwydiannau creadigol wneud cais am gyllid o hyd at £50,000 a phecyn o gymorth pwrpasol ar gyfer tyfu eu busnes. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais: Creative Catalyst 2024 – UKRI

Rownd 2 Credyd Busnesau Bach a Chanolig UKBIC – digidol neu feddalwedd

Gall mentrau micro, bach a chanolig sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.5 miliwn i gynyddu a hwyluso eu hymgysylltiad ag UK Battery Industrialisation Centre. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais: UKBIC SME Credit Round 2 – digital or software – UKRI

Datganiad o ddiddordeb: Swp strategol Rhaglen y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI)

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £685,000 i gefnogi ymchwil diwydiannol a rhoi cymorth buddsoddi er mwyn gwneud sector awyrofod sifil y DU yn fwy cystadleuol. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais: Expression of interest: ATI Programme strategic batch Jan 2024 – UKRI

Arloesi ym maes monitro amgylcheddol

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £5 miliwn ar gyfer prosiectau cydweithredol i ddatblygu datrysiadau arloesol ym maes monitro amgylcheddol. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais: Environmental monitoring innovation – UKRI

Cryfhau gwytnwch system fwyd y DU

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1.4 miliwn o gyllid ar gyfer cryfhau gwytnwch system fwyd y DU, wrth ddefnyddio dull systemau bwyd ac ystyried risgiau rhaeadru. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais: Strengthening the resilience of the UK food system – UKRI

Technolegau rhoi meddyginiaethau heb nodwyddau: astudiaethau dichonoldeb

Gall busnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £1 miliwn ar gyfer astudiaethau dichonoldeb i gefnogi datblygu a gweithgynhyrchu technolegau di-nodwydd ar gyfer rhoi meddyginiaethau. Rhagor o wybodaeth a gwneud cais: Needle free medicines delivery technologies: feasibility studies – UKRI 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.