BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Jiwbilî Platinwm y Frenhines 2022

Bydd y DU yn dathlu 70 mlwyddiant o deyrnasiad Ei Mawrhydi y Frenhines gyda phenwythnos o ddathliadau. 

Bydd Penwythnos Gŵyl y Banc mis Mai yn cael ei symud i ddydd Iau 2 Mehefin a bydd Gŵyl Banc ychwanegol ddydd Gwener 3 Mehefin yn gweld penwythnos pedwar diwrnod i ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi y Frenhines. Bydd medal Jiwbilî yn cael ei chreu a'i dyfarnu i weithwyr gwasanaethau cyhoeddus. 

Cynnwys cysylltiedig: 

Mae'r Senedd wedi pasio gorchymyn i ymestyn oriau trwyddedu mewn tafarndai, clybiau a bariau o 11pm i 1am. Bydd yr estyniad ar gyfer dydd Iau 2 Mehefin i ddydd Sadwrn 4 Mehefin:

Mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan yn nathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines, p'un a ydych yn awdurdod lleol, ysgol, busnes neu grŵp cymunedol. 

I gael mwy o wybodaeth, ewch i The Queen's Platinum Jubilee 2022
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.