BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL): Ymgynghoriad 'gallai gynnwys'

Ymgynghoriad ar ddarparu labelu alergenau rhagofalus a gwybodaeth ragofalus am alergenau, fel ‘gallai gynnwys’, ar lawer o fathau o fwyd a werthir yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i'r canlynol:  

  • busnesau bwyd
  • sefydliadau, er enghraifft, ysbytai, ysgolion
  • cynhyrchwyr cynradd
  • cwmnïau trafnidiaeth
  • cyrff masnach
  • timoedd diogelwch bwyd awdurdodau lleol
  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
  • gwyddonwyr ac academyddion
  • sefydliadau sy'n cefnogi pobl sydd â gorsensitifrwydd i fwyd
  • defnyddwyr sydd â gorsensitifrwydd i fwyd a'r rhai sy'n gofalu am rywun sydd â gorsensitifrwydd i fwyd
  • defnyddwyr heb orsensitifrwydd i fwyd
  • rhanddeiliaid ehangach

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 14 Mawrth 2022.

Am ragor o wybodaeth ewch i Labelu Alergenau Rhagofalus (PAL): Ymgynghoriad 'gallai gynnwys' | Asiantaeth Safonau Bwyd (food.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.