BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio cyfres o bodlediadau ar iechyd meddwl yn y gwaith

Mae partner diweddaraf ymgyrch Working Minds yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Make UK, wedi lansio cyfres o bodlediadau ar bwysigrwydd iechyd meddwl. 

Ar draws chwe pennod, mae cyn Olygydd Busnes y BBC, Jonty Bloom, yn cyfweld â chwmnïau ac arbenigwyr – o gwmnïau mawr i BBaChau. Maent yn cynnwys: 

  • Chloe Smith AS, y Gweinidog dros Bobl Anabl, Iechyd a Gwaith 
  • Andrew Ward, Cyfarwyddwr Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd Make UK  
  • Rachel Newman, Pennaeth Pobl, Polisi a Chymorth, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI) 
  • Dr Shaun Lundy, Cyfarwyddwr Strategaeth ac Arloesi, Ymgynghoriaeth Tetra 

Gallwch gyrchu'r gyfres o bodlediadau drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: The Importance of Mental Health Podcasts | Make UK
 
Mae ymgyrch Working Minds campaign yn rhoi cyngor hawdd i'w weithredu i gyflogwyr a gweithwyr er mwyn atal straen sy’n gysylltiedig â gwaith ac annog iechyd meddwl da.


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.