BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio cyllid newydd gwerth £30 miliwn i hybu arloesedd yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn mewn rhaglenni newydd a fydd yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu ac ymgorffori cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd i helpu i wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: Lansio cyllid newydd gwerth £30 miliwn i hybu arloesedd yng Nghymru | LLYW.CYMRU

  • Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS) newydd gwerth £20 miliwn i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi blaengar newydd a fydd yn gwella bywydau pobl.
  • Bydd yn cefnogi sefydliadau i arloesi ac yn helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn gwella sgiliau, yn helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a'r gallu i gefnogi twf cynaliadwy.
  • Mae gweinidogion hefyd yn lansio Cronfa’r Economi Gylchol ar gyfer Busnes gwerth £10 miliwn i'w cefnogi i symud tuag at economi garbon sero net gylchol.

Bydd Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS), sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, yn helpu busnesau, sefydliadau ymchwil, academia a chyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i arloesi, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a gwella sgiliau, gan helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a’r capasiti i gefnogi twf cynaliadwy.

Bydd buddsoddiad yn targedu gweithgareddau fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi Strategaeth arloesi i Gymru.  

Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gyllid ar gael ar wefan Busnes Cymru.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.