Mae datblygu gwerth diwydiant bwyd a diod Cymru i £8.5bn a chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy'n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, erbyn 2025, wrth wraidd gweledigaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.
Bydd Y Weledigaeth ar gyfer y diwydiant Bwyd a Diod o 2021 yn adeiladu ar lwyddiant y sector yng Nghymru gyda'r nod allweddol o helpu i sicrhau diwydiant bwyd a diod ffyniannus sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth.
Mae amcanion y Weledigaeth yn cynnwys:
- Bob blwyddyn bydd gwerth trosiant sector bwyd a diod Cymru yn tyfu'n gymesur yn fwy na gweddill y DU, ac i o leiaf £8.5bn erbyn 2025.
- Bydd cyfartaledd tair blynedd y Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) fesul awr a weithir yn y diwydiant yn cynyddu'n gymesur yn fwy na gweddill y DU.
- Bob blwyddyn, bydd cyfran y gweithwyr yn y sector bwyd a diod sy'n derbyn Cyflog Byw Cymru o leiaf yn cynyddu, i 80% erbyn 2025.
- Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau gweithgynhyrchu yn y diwydiant sy'n dal achrediad (e.e. rheoli amgylcheddol, datblygu staff, cynhyrchu a safonau perthnasol eraill).
- Bob blwyddyn, bydd cynnydd yng nghyfran y busnesau yn y sector gweithgynhyrchu bwyd a diod sy'n derbyn gwobrau sy'n briodol i'w busnes. Erbyn 2025 bydd o leiaf chwe chynnyrch Cymreig arall yn ymuno â Chynllun Gwybodaeth Ddaearyddol y DU.
- Bydd gan 98% o fusnesau sgôr hylendid bwyd o 5 erbyn 2025.
Mae'r Weledigaeth wedi'i hanelu at bob busnes yn y diwydiant o fanwerthu ac allforwyr i dwristiaeth, o fragwyr a phobyddion i weithgynhyrchwyr a phroseswyr.
Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru