BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio pecyn i helpu cadwyn gyflenwi Tata

Tata Steelworks Port Talbot

Caiff arian y gronfa ei rhannu trwy bartneriaeth rhwng Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Busnes Cymru Llywodraeth Cymru.

Bydd busnesau sy’n perthyn i gadwyn gyflenwi Tata Steel UK ac y bydd y newid i ddefnyddio trydan i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn effeithio arnyn nhw yn cael ceisio am arian o heddiw ymlaen i’w helpu â heriau tymor byr y cyfnod pontio, yn ogystal ag am help i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu. 

Heddiw, mae Busnes Cymru yn gwahodd busnesau sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK i asesu a ydyn nhw’n gymwys am gymorth Cronfa Pontio Hyblyg y Gadwyn Gyflenwi sy’n rhan o gronfa gymorth gwerth £80m a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU trwy’r Bwrdd Pontio traws-lywodraethol. 

Yr un diwrnod, mae Tata Steel UK yn rhoi’r gorau i weithio Ffwrnais Chwith 4 a’r asedau haearn a dur cysylltiedig, gan ddod â gweithgareddau gwneud haearn ar safle Port Talbot i ben. Bydd y cwmni’n ailddechrau cynhyrchu dur ar y safle yn 2027 diolch i fuddsoddiad o £1.25 biliwn mewn Ffwrnais Arc Drydan gan ddefnyddio dur gwastraff o Brydain.

Bydd yn cynnig cyngor busnes a chymorth ariannol i fusnesau ledled Cymru sy’n rhan o gadwyn gyflenwi Tata Steel UK. Bydd y gronfa yn sicrhau bod busnesau y bydd y newid yn Tata Steel UK ym Mhort Talbot yn effeithio arnynt yn gallu dygymod â’r heriau tymor byr fydd yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod pontio, ac yn helpu busnesau i baratoi ar gyfer cyfleoedd newydd i dyfu. 

Bydd busnesau’n gallu datgan eu diddordeb i drafod eu hanghenion gyda Busnes Cymru, trwy wiriwr cymhwysedd. Bydd busnesau cymwys wedyn yn mynd trwy broses ddiagnostig drylwyr cyn cael gwahoddiad i wneud cais am gymorth ariannol. 

Gallwch ddefnyddio'r adnodd hwn i wirio a ydych yn gymwys i gael cyllid: Cronfa Hyblyg Pontio'r gadwyn gyflenwi | Busnes Cymru (gov.wales) 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Lansio pecyn i helpu cadwyn gyflenwi Tata | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.