Gall troseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad fod ar sawl ffurf megis dwyn offer amaethyddol, troseddau difrifol yn erbyn da byw a dinistrio bywyd gwyllt a'u cynefinoedd. Amcangyfrifwyd bod lladradau cefn gwlad yn unig wedi costio £1.3m yn 2021.
Bydd y strategaeth ar y cyd, rhwng Llywodraeth Cymru a phedwar heddlu Cymru, yn allweddol yn y frwydr yn erbyn troseddau o'r fath.
Bydd dull cydgysylltiedig a strategol yn ganolog i lwyddiant y strategaeth sy'n cael ei lansio.
Ymhlith yr amcanion yn y strategaeth mae:
- Gweithio mewn partneriaeth i leihau troseddau a diogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt;
- Datblygu rhwydweithiau effeithiol i rannu syniadau, arfer gorau, ac adnoddau;
- Gwella'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi dioddefwyr sy'n profi troseddu mewn ardaloedd cefn gwlad, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed;
- Darparu hyfforddiant a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau mewn ystod eang o faterion sy’n gysylltiedig â throseddau bywyd gwyllt a chefn gwlad, gan elwa i’r eithaf ar asiantaethau partner;
- Gwella’r gwaith o gasglu data a rhannu gwybodaeth ymhlith partneriaid ac asiantaethau gorfodi;
- Defnyddio technoleg ac arloesi i ddiogelu cymunedau cefn gwlad a bywyd gwyllt.
Mae'r strategaeth wedi'i theilwra i anghenion Cymru ac fe fydd yn cael ei chyflwyno drwy chwe grŵp blaenoriaeth – Troseddau Adar; Troseddau Fferm; Cynefinoedd; Mamaliaid a Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd; Goruchwylwyr Gwledig Heddlu Cymru; ac Iechyd Meddwl a Cham-drin Domestig.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol: