Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion i wahardd eitemau plastig untro amrywiol ac am glywed eich barn ar sut gall Cymru fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch fyd-eang i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig.
Mae’r plastigion untro y cynghorir arnynt yn cynnwys:
- gwellt
- troellwyr
- ffyn cotwm
- ffyn balŵn
- platiau a chelfi
- cynwysyddion bwyd a diod sydd wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ymestyn a;
- chynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig ocso-diraddiadwy
Mae’r camau hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i ddatrys problem llygredd plastig, lleihau sbwriel a helpu i symud Cymru tuag at economi gylchol a Chymru ddiwastraff erbyn 2050.
Mae’r ymgynghoriad ar agor hyd 22 Hydref 2020 a gellir cyflwyno ymatebion ar wefan Llywodraeth Cymru.