BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio ymgyrch fawr i ymladd twyll

stressed female looking at a laptop, victim of fraud.

Mae Stop! Think Fraud, sef yr Ymgyrch Genedlaethol yn Erbyn Twyll, wedi cael ei lansio ac yn cael ei chefnogi gan arbenigwyr gwrth-dwyll arweiniol sy’n uno o dan un llais i ddarparu cyngor gwrth-dwyll cyson, clir a thrylwyr i’r cyhoedd.

Mae twyll yn cyfrif am ryw 40% o’r holl droseddau yng Nghymru a Lloegr, ac amcangyfrifir bod 3.2 miliwn o droseddau’n cael eu cyflawni bob blwyddyn. Amcangyfrif mai cost twyll i gymdeithas yw £6.8 biliwn yng Nghymru a Lloegr.

Does neb yn ddiogel rhag twyll. Mae’r troseddwyr yn targedu pobl ar-lein, ac yn eu cartrefi, yn aml yn cam-drin eu dioddefwyr yn emosiynol cyn iddynt ddwyn arian neu ddata personol.

Ond mae yna rywbeth y gallwn ei wneud. Trwy aros yn wyliadwrus a chymryd eiliad bob amser i aros, meddwl a gwirio pryd bynnag mae rhywun yn ceisio ein twyllo, gallwn ni helpu diogelu ein hunain a’n gilydd rhag twyll.

Bydd ymgyrch Stop! Think Fraud yn rhoi’r wybodaeth a’r offer sydd eu hangen arnoch i beidio â chael eich twyllo gan sgamiau.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Stop! Think Fraud - How to stay safe from scams (stopthinkfraud.campaign.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.