BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Lansio ymgyrch i leihau marwolaethau ac anafiadau sy’n ymwneud â cherbydau fferm

Amaethyddiaeth sydd â'r gyfradd waethaf o farwolaethau ac anafiadau (fesul 100,000 o weithwyr) o bob sector ym Mhrydain Fawr.  

Digwyddiadau’n ymwneud â cherbydau yw'r prif achos o farwolaethau ar ffermydd Prydain, gan ladd 48 o bobl yn y 5 mlynedd diwethaf.  

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi lansio'r ymgyrch 'Work Right Agriculture. Your farm. Your future’. Mae'n tynnu sylw at gyngor syml ar ddiogelwch cerbydau i helpu i gadw pawb ar y fferm yn ddiogel.   

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch eisiau gwneud 2023 yn flwyddyn fwy diogel ar ffermydd trwy gydweithio. Pan fyddwch yn dechrau eich trefn ddyddiol heddiw, dilynwch y cyngor 'fferm ddiogel, gyrrwr diogel, cerbyd diogel' i'ch helpu i gynllunio'r dasg a'i chwblhau'n ddiogel.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.