Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn galw am newid diwylliant ledled gweithleoedd Prydain lle byddai cydnabod ac ymateb i arwyddion o straen yn dod mor naturiol â rheoli diogelwch yn y gweithle.
Straen sy’n gysylltiedig â gwaith yw prif achos absenoldeb salwch ymysg gweithwyr bellach, gyda ffactorau pwysig yn achosi straen cysylltiedig â gwaith, gan gynnwys pwysau llwyth gwaith – terfynau amser tynn, gormod o gyfrifoldeb a diffyg cymorth gan reolwyr. Nid yw cyflogwyr, yn enwedig rhai llai, yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyfreithiol neu sut i adnabod arwyddion straen.
Mae Working Minds yn codi ymwybyddiaeth o sut i adnabod straen ac ymateb i arwyddion ohono ac yn atgoffa cyflogwyr o’u dyletswydd gyfreithiol i ddiogelu gweithwyr a chefnogi iechyd meddwl da er mwyn helpu pobl i gadw’n iach. Mae’r sefydliad yn darparu gwybodaeth berthnasol ac adnoddau ymarferol i fusnesau bach hefyd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: Working Minds - Work Right to keep Britain safe (campaign.gov.uk)