BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llacio mesurau diogelu coronafeirws wrth i achosion leihau

Heddiw (10 Chwefror), cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru yn dechrau llacio’n raddol rai o’i mesurau diogelu coronafeirws sydd dal mewn grym wrth i achosion barhau i leihau.

O 18 Chwefror 2022 ymlaen, bydd y gofyniad cyfreithiol i ddangos Pás COVID i fynd i mewn i leoliadau a digwyddiadau penodol yn cael ei ddileu ac o 28 Chwefror ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man dan do cyhoeddus bellach.

Bydd y newidiadau yn cael eu cadarnhau ddydd Gwener, yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o fesurau lefel rhybudd sero Cymru.

Awgryma’r canlyniadau diweddaraf o Arolwg Heintio’r ONS fod y lefelau haint wedi lleihau’n ddiweddar, ond fod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn parhau’n gymharol uchel ym mhob rhan o Gymru.

O ddydd Gwener 18 Chwefror ymlaen, ni fydd y Pás COVID domestig yn ofynnol bellach ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do neu awyr agored, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond bydd digwyddiadau a lleoliadau yn gallu parhau i’w ddefnyddio os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Bydd y Pás COVID rhyngwladol yn parhau i fod yn rhan annatod o drefniadau ar gyfer teithio rhyngwladol mwy diogel. Bydd angen i deithwyr edrych ar reolau’r wlad berthnasol ynghylch mynediad, gan gynnwys unrhyw ofynion gwahanol i blant.

O ddydd Llun 28 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddileu yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb gael ei ddileu yn yr holl leoliadau sy’n weddill erbyn diwedd mis Mawrth.

Bydd ysgolion yn dychwelyd at ddefnyddio eu fframwaith penderfynu lleol o 28 Chwefror ymlaen. Yn ogystal, o 11 Chwefror ymlaen, bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru er mwyn ei gwneud yn glir y gall oedolion dynnu eu gorchudd wyneb pan fyddant yn rhyngweithio â babanod a phlant bach mewn grwpiau i’r oedrannau hynny.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 3 Mawrth 2022, pan fydd yr holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym yn cael eu hadolygu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.