BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Llai na mis i fusnesau bach a chanolig gofrestru gyda'r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS)

2 people having a dispute looking at a laptop

Anogir busnesau bach a chanolig i gofrestru eu cwyn bancio busnes gyda'r Gwasanaeth Datrys Anghydfodau Bancio Busnes (BBRS), a fydd yn cau i gofrestriadau newydd am hanner nos ar 13 Rhagfyr 2024. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fydd busnesau bach a chanolig yn gallu cofrestru unrhyw gŵynion gyda'r BBRS a gallai busnesau golli allan ar ddatrysiadau a thaliadau unioni.

I gyflwyno cwyn i Gynllun Cyfoes y BBRS, rhaid i fusnesau bach a chanolig fod â throsiant o lai na £10 miliwn, mantolen o lai na £7.5 miliwn a ddim yn gymwys ar gyfer Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Rhaid i gŵynion ymwneud â digwyddiadau a ddigwyddodd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019 nad ydynt eisoes wedi bod yn destun adolygiad annibynnol neu wedi'u setlo.

Gellir cofrestru cwyn gyda’r BBRS yn rhad ac am ddim. Mae'r BBRS yn wasanaeth datrys anghydfod annibynnol, a ariennir gan y diwydiant, ar gyfer busnesau bach a chanolig sy’n gwsmeriaid Banc Barclays, Banc Danske, HSBC UK, Grŵp Bancio Lloyds, Grŵp NatWest, Santander a Virgin Money. 

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth:usiness Banking Resolution Service


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.